YSGRIFENNWCH AT EICH AELOD SENEDDOL: Gwrthwynebwch y gyfraith gwrth-boicot

For the English language version click here.

Mae’r ‘Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)’ neu’r Bil gwrth-boicot wedi pasio ei ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ar 3 Gorffennaf ac mae bellach wedi symud ymlaen i’r cyfnod pwyllgor. 

Mae’r Bil yn ceisio cyfyngu ar allu awdurdodau cyhoeddus i wneud dewisiadau moesegol ynghylch gwariant a buddsoddiad a bydd yn effeithio ar gynghorau lleol, prifysgolion, a Llywodraeth Cymru. Gallai gael effaith enfawr ar feysydd pŵer datganoledig a llechfeddiant ar bwerau’r Senedd, er enghraifft drwy sathru ar yr ymrwymiadau moesegol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). 

RHAID I'W GWRTHWYNEBU. Ysgrifennwch at eich Aelod Seneddol yn awr i fynnu eu bod yn siarad yn gyhoeddus yn erbyn darpariaethau’r Bil hwn, yn atal cydsyniad deddfwriaethol pan ddaw’r cynnig gerbron y Senedd ac yn annog eu cydweithwyr yn Senedd y DU i bleidleisio yn erbyn y Bil ar y trydydd darlleniad. 

Rhowch eich cod post i anfon ein llythyr templed at eich AS: